Cynllun Gwlad Pwyl
 
Ymweliad a Cartref Plant yn Legnicia,
Gwlad Pwyl, Gorffennaf 2002

Beth oedd pwrpas y daith?
Yn syml roeddwn am fynd allan i aros mewn cartref i 67 o blant amddifad gyda’r bwriad o gymdeithasu, gwneud ffrindiau newydd a gwneud ychydig o waith gyda’r £6,300 y codwyd. Wrth i’r bws mini gyrraedd y cartref sylweddolom yn syth bod eu croeso yn mynd i fod yn arbennig o gynnes.

Roedd y plant yn blant amddifad ac roedd gan y cartref £10 y mis i ddilladau, bwydo ac addysgu’r plant. Er hyn roedd eu croeso a’u cyfeillgarwch yn arbennig. Cyn hir roeddent wedi dysgu criw yr Urddaholics i gyfri ym Mhwyleg ,dweud helo, nos da, diolch ac yn y blaen. Roeddent hyd yn oed yn ein dysgu i ganu (wel…trio canu ta beth!)

Cafodd ein criw ni (Urddaholics) hefyd y cyfle i ddysgu caneuon difir iawn yn yr iaith Gymraeg i blant gwlad Pwyl!! Gan hefyd ddangos dawnsfeydd a dawnsio clocsio traddodiadol yn ystod ein noson olaf yn y cartref!!

Nôl i weld manylion y trip
Ymlaen i'r diweddglo

Nôl