PLANT GWLAD PWYL YN CAEL HWYL YN LLANGRANNOG
  
THIRD POLISH ORPHANAGE VISIT TO WALES

 
Fersiwn Gymraeg

Croesawyd pobl ifanc o Wlad Pwyl i Gymru am y trydydd tro fel rhan o gynllun Cymru/Gwlad Pwyl yr Urdd ym mis Awst. Roedd edrych ymlaen mawr wedi bod yng Nghymru i’w croesawu a hefyd ym Mhwyl i gael dod ar y daith hir iawn yr holl ffordd mewn bws! Roedd cyffro ymysg y Pwyliaid eleni yn fwy nag arfer oherwydd roedd dau gartref plant yn cael cyfle i ddod i Gymru. Felly, cyfle i wneud ffrindiau newydd ar y bws ac i wneud mwy o ffrindiau yn Llangrannog a Chaerdydd.

Roedd criw o Urddaholics yn Llangrannog yn disgwyl y bws ac wedi trefnu rhaglen gyffrous ar gyfer ein ffrindiau o Wlad Pwyl o weithgareddau gwersyll, mynd i Oakwood, mynd ar gwch a chael mynd i wersyll newydd yr Urdd yng Nghaerdydd.

Roedd yn gyfle cyntaf i rai o’r bobl ifanc adael y Cartref Plant heb sôn am adael Gwlad Pwyl, ac i nifer ohonynt roedd gweld y môr yn Llangrannog yn brofiad bythgofiadwy. Roeddent i gyd wedi gwirioni gyda’r gweithgareddau ac o weld tirlun Cymru ar eu taith draw.

Rhannu cyfeillgarwch a diwylliant oedd nod yr ymweliad a rhoi croeso a phrofiadau gwych i’r Pwyliaid. Trefnwyd ambell noson o ddawnsio gwerin, gemau, disgo ac ar y noson olaf cafwyd noson wobrwyo go arbennig! Yn cynnwys tystysgrif am y sgrech waethaf ar y reid gyflyma yn Oakwood – aeth i Fam y Cartref!!

Llongyfarchiadau i bawb am drefnu ymweliad llwyddiannus dros ben!

Llangrannog was host to the third visit by our Polish friends in August. A packed programme had been organised for the young people by Urddaholics which included Llangrannog activities, Oakwood, a trip in a boat, folk dancing, singing and most importantly socialising together and having fun!

Congratulations to everyone who made the visit such a great success once again!