Eleni gwelwyd ymestyniad
cyffrous iawn i'r arferiad o gynnal gweithgareddau yn y Kata yn Eisteddfod
yr Urdd! Cafwyd llu o weithgareddau addysgiadol a hynny mewn modd cyffrous
iawn drwy'r wythnos.
Bu te a choffi
Masnach Deg
ar gael drwy'r wythnos a chamolwyd y syniad hwn
gan y cyhoedd.
Agor Drysau
yw prosiect cyfredol yr Urdd ar y cyd gyda
Shelter Cymru.
Cafwyd sesiynau ardderchog i lunio cerdyn pen-blwydd i'r mudiad sydd eleni
yn dathlu 25 oed. Hefyd lansiwyd cystadleuaeth Genedlaethol Agor Drysau i
ysgrifennu geiriau ar gyfer Carol Nadolig ar thema digartrefedd. Hefyd bu
Dawnsio Stryd yng nghwmni Non Jones.
Cafwyd
dawnsio gwerin
traddodiadaol yn y Kata gyda Tanwen
Siencyn!
Cefyn Burgess
bu'n creu offerynnau cerdd o adnoddau wedi eu
hailgylchu.
Dal i Guro
yw ymgyrch newydd sydd yn dilyn Rhown Derfyn ar
Dlodi a chafwyd digon o gyfle i wneud swn i dynnu sylw at achosion tlodi
dros y byd!
Daeth Prif Gwnstabl Heddlu Gogledd
Cymru draw i ateb cwestiynnau plant a
phobl ifanc am wasanaethau'r heddlu yn eu cymunedau.
Gweithgareddau
Heddwch
gafwyd yng nhwmni Gwerin y Coed.
Masnach Deg
oedd thema sesiwn gemwaith
Aled Pickard a Robin Samuel o Cymorth Cristnogol.
Sioe Ffasiwn
liwgar oedd ymlaen bore dydd Mercher yn dangos
dillad 7twenty
o Rhuthun ac i ddilyn cafwyd sesiwn
Buddies
gyda disgyblion Ysgol Creuddyn.
Cafwyd cyflwyniad Ysgol Maes
Garmon o'u Neges Heddwch ac Ewyllys Da
a chyflwynwyd poster o'r neges i Jeff Williams
Cymorth Cristnogol.
Dysgu dyrmio
Bodhran
gyda criw o'r Wyddgrug a chafwyd gwersi
Harddu
gyda Angharad a Sian.
Roedd y
Groes Goch
ar gael i ddysgu sgiliau
Cymorth Cyntaf.
Y ddau fand bu'n chwarae yn y
Kata oedd Ricochet a Labrinth.