KATA Eisteddfod Genedlaethol Sir Ddinbych 2006
  
Kata Denbighshire Urdd National Eisteddfod 2006

         Gweler yn Gymraeg
 
Below are some of the activities that took place during the Eisteddfod.
 
Eleni gwelwyd ymestyniad cyffrous iawn i'r arferiad o gynnal gweithgareddau yn y Kata yn Eisteddfod yr Urdd! Cafwyd llu o weithgareddau addysgiadol a hynny mewn modd cyffrous iawn drwy'r wythnos.

Bu te a choffi Masnach Deg ar gael drwy'r wythnos a chamolwyd y syniad hwn gan y cyhoedd.

Agor Drysau yw prosiect cyfredol yr Urdd ar y cyd gyda Shelter Cymru.  Cafwyd sesiynau ardderchog i lunio cerdyn pen-blwydd i'r mudiad sydd eleni yn dathlu 25 oed.  Hefyd lansiwyd cystadleuaeth Genedlaethol Agor Drysau i ysgrifennu geiriau ar gyfer Carol Nadolig ar thema digartrefedd.  Hefyd bu Dawnsio Stryd yng nghwmni Non Jones.
 


 
Cafwyd dawnsio gwerin traddodiadaol yn y Kata gyda Tanwen Siencyn!
 

 
Cefyn Burgess bu'n creu offerynnau cerdd o adnoddau wedi eu hailgylchu.
 

Dal i Guro yw ymgyrch newydd sydd yn dilyn Rhown Derfyn ar Dlodi a chafwyd digon o gyfle i wneud swn i dynnu sylw at achosion tlodi dros y byd!
 

Daeth
Prif Gwnstabl Heddlu Gogledd Cymru draw i ateb cwestiynnau plant a phobl ifanc am wasanaethau'r heddlu yn eu cymunedau.
 

 
Gweithgareddau Heddwch gafwyd yng nhwmni Gwerin y Coed.
 

 

Masnach Deg oedd thema sesiwn gemwaith Aled Pickard a Robin Samuel o Cymorth Cristnogol.
 

 
Sioe Ffasiwn liwgar oedd ymlaen bore dydd Mercher yn dangos dillad 7twenty o Rhuthun ac i ddilyn cafwyd sesiwn Buddies gyda disgyblion Ysgol Creuddyn.
 
Cafwyd cyflwyniad Ysgol Maes Garmon o'u Neges Heddwch ac Ewyllys Da a chyflwynwyd poster o'r neges i Jeff Williams Cymorth Cristnogol.
 

 
Dysgu dyrmio Bodhran gyda criw o'r Wyddgrug a chafwyd gwersi Harddu gyda Angharad a Sian.
 

 
Roedd y Groes Goch ar gael i ddysgu sgiliau Cymorth Cyntaf.
 
 
Y ddau fand bu'n chwarae yn y Kata oedd Ricochet a Labrinth.