Gwobrau Cyflawniad Ieuenctid
Youth Achievement Award
Gan Rhys Evans a Dewi Thomas Map o
Libya
•Fel
gallwch weld mae Libya yn wlad enfawr.
Arwynebedd:
1,759,540 sq km
Arfordir:
1,770 km
Hinsawdd:
Mor y Canoldir ar hyd arfordir; sych, diffeithdir/anialwch.
Nwyddau Naturiol:
petroleum, nwy naturiol, gypsum
Problemau Amgylcheddol:
•Mae
dros 90% yn anialwch
•Does
dim digon o ddwr er mwyn ffermio oherwydd diffeithdiro.
•Mae
llygredd yn effeithio ar iechyd
y bobl.
•Does
dim system o gael gwared a’r
sbwriel.
•Does
dim ailgylchu.
Prosiect Anialwch
Gwyrdd
•
Dros gwyliau’r Pasg gawsom y pleser o fod yn rhan o
barti o bobl ifanc a oedd yn ymweld a Libya. Am bythefnos roedden ni’n
rhan o brosiect cyfnewid pobl ifanc, yr un gyntaf rhwng y Deirnas Unedig a
Libya am 35 mlynedd, ac felly roedd hi’n drip hanesyddol.
Bwriad y prosiect oedd i ymchwilio mewn i broblemau amgylcheddol a
diwylliannol Libya, ac wrth gwrs i adeiladu pontydd rhwng y ddau wlad a’u
pobl.
Bu grwp o 14 o ieuenctid Cymru a 3 arweinydd hedfan i brif ddinas Libya
sef Tripoli ar y 24ain o Fawrth. Dychwelon yn ol i Lundain ar y 7fed o
Ebrill.
Cafodd y grwp ei paru gyda 14 partner o Libya. Yn
ystod ein amser yn Tripoli roedd y grwp yn aros gyda teuluoedd ein
partneriaid, er mwyn cael syniad go dda o sut mae bywyd yn Libya.
Targed arall o’r prosiect oedd i weithio mewn grwpiau er mwyn helpu sefydlu
safle we tair-ieithog a oedd yn canolbwyntio ar materion dywylliannol ac
amgylcheddol yn Libya a Chymru.
Roedd y cynllun o ddydd i ddydd yn un brysur ac amrywiol. Roedd y
gweithgareddau yn amriwio i ymweliadau o ddinasoedd Rhufeinyg anhygoel
Leptis Magna a Sabratha, Prosiectau fel y “Great Man Made River Project”, ac
ymweliadau i ardaloedd sy’n addysgu ni o bywyd traddodiadol Libya. Rhan
anghredadwy o’r trip oedd ymweliad ni i’r diffeithiwch Sahara ble cawson y
cyfle i ddysgu am diwylliannau’r pobl Tuareg a Berber.
Ym mis Gorffennaf bydd y Libiaid yn ymweld a Chymru am
bythefnos, a bydd rhaid i ni paratoi cynllun diddorol iddyn nhw gan ceisio
dangos agweddau gorau Cymru. Eto mi fydd rhaid i’r grwp edrych ar materion
diwylliannol ac amgylcheddol ni gan wneud gwaith sy’n defnyddiol i’r safle
we. Rydym yn gobeithio lawnsio’r safle we yn fuan ar ol i’r Libiaid
dychwelyd.
Yn bennaf mae’r Prosiect Annialwch Gwyrdd yn cael arian gan y “Conect Youth
International” sy’n rhan o’r Cyngor Prydeinyg sef mudiad rhyngwladol sy’n
canolbwyntio ar addysg a materion diwylliannol.
Mae’r mudiadau Gwerin y Coed, Forum Ieuenctid Cymru ac wrth gwrs Urdd
Gobaith Cymru wedi cael rhan blaenllaw hefyd yn y prosiect, gan fod y
Ieuenctid sydd yn cymryd rhan yn y Prosiect yn aelodau o’r mudiadau hyn. Fel
i chi’n gwybod mae llawer yn bwriadu ceisio am y Gwobrau Cyflawniad
Ieuenctid ac felly rydym yma heddiw er mwyn dangos i chi yn union beth
digwyddodd.
|
- Er fod llawer yn credu mae Libya yn
wlad unbeniaethol, nid yw hyn yn wir. Credir taw’r dyn yma, sef Muammar
Al Qathafi yw unbennaeth Libya. Ond yn ol y gyfraith a sefydlwyd does
dim pwerau arbennig ganddo. Mae’n galw ei hun yn arweinwr y wlad yn unig.
Mae gan Libya llywodraeth a Prif Weinidog ei hun felly.
- Mae’r llyfr Gwyrdd a ysgrifennwyd gan Qathafi yn
esbonio ei syniadau ynglun a’r llywodraeth perffaith. Ynddo mae’n
comdemio ddemocratiaeth gan hysbysebu taw sosialiaeth yw’r unig opsiwn
ddoeth.
- Defnyddir propoganda ar led y wlad i hysbebu pa
mor anhygoel yw’r cymeriad yma. Mae llun o Qathafi i’w weld ym mhron bob
ystafell. Portreadant ef fel arwr sydd wedi achub ei bobl o amseroedd
dywyll yn hanes Libya. |
Dyma rhai o’r bechgyn tu allan i caffi yn Tripoli:
Roedd croeso cynnes pob man yr aethom. Gallwch weld o’r lluniau fod yr
ysgolion yma yn Tripoli wedi paratoi parti traddodiadol ar ein cyfer.
Yn wir gawsom ein trin fel VIP’s:
Rhan bwysig o’r Prosiect Annialwch Gwyrdd yw i rhoi cyfle
i ni weld a chael profiadau newydd, ac i gael profiad o sut mae Mwslemiaid
yn byw. Y ffordd gorau i wneud hyn oedd i aros a byw gyda teulu o Tripoli.
Roedd y profiad yn un anhygoel gan ei fod wedi agor ein llygaid ni i
ddiwylliant gwbwl wahanol.
Mae traddodiadau diddorol a gwahanol iawn ganddynt o gymharu a ni.
Dyma fi ac Ahmed:
Man Made River Project
Mae’r 1af o Fedi yn ddiwrnod bwysig yn calendr Libya gan
ei fod yn benblwydd agoriadol Prosiect y “Great Man-Made River”. Mae’r
system hyn o gludo dwr o storfeydd tanddaearol yng nghanol yr anialwch, yn
llwyddianus dros ben er mwyn datrys y broblem o ddiffyg dwr. Mae’r prosiect
yn un enfawr sydd wedi cymryd dros 30 mlynedd i adeiladu. Mae dal llawer o
waith i’w wneud.
Yn gyffredinol mae’r Gorllewin yn gwrthod credu fod wlad mor fach o rhan
poblogaeth, tua 5 miliwn, wedi llwyddo i adeiladu prosiect mor eang heb
benthyg arian o banciau rhyngwladol. Mae llawer yn condemio’r system o gludo
dwr gan ei fod yn ddrud a dim ond tua 40 mlynedd rydynt yn rhagfynegi bydd y
pibellau’n parhau. Lan hyd at yn ddiweddar mae’r
dwr yfed wedi bod o ansawdd wael. Mae braidd dim glaw ac felly dim ond un
afon naturiol sydd ar gael yn Libya. Nid yw’r afon hyn yn ddigon i cyflenwi
Tripoli ei hun a dwr yfed, heb son am weddill y wlad. Nid oedd digon chwaith
i ddyfrhau ffermydd ar gyfer amaethyddiaeth y wlad sy’n hanfodol i wlad mor
sych. O ganlyniad, yn y gorffenol roedd rhaid dibynnu ar wledydd tramor i
fewnforio bwyd a dwr.
Dyma rhai ffeithiau diddorol am y prosiect:
Dyma luniau eraill o'r gronfa:
Gawsom y cyfle i fynd allan i’r mor hefyd.
Mae pysgota yn hanfodol i economi y wlad. Er fod y wlad
yn gyfoethog o rhan olew mae pysgota yn bwysig i lawer o deuluoedd ar hyd yr
arfordir.
Yn ystod ei’n hymweliad roedd rhaid i bob person
cydweithio gyda’i partner i ysgrifennu dogfen ar pynciau gwahanol. Roedd
rhan fwyaf o’r adroddiadau yn ymwneud a’r amgylchfyd a sut gall y
llywodraeth gwella’r problemau yn Libya.
Un o’r problemau enfawr oedd y sbwriel ymhobman. Gan fod dim system mewn lle
i gludo’r sbwriel i ffwrdd ac i ailgylchu, mae e’n casglu ar y strydoedd.
Mae rhai ardaloedd yn afiach. Hyd yn oed yn y mynyddoedd gallwch weld fod
pobl yn taflu sbwriel i’r llawr heb ots o gwbwl.
Problem sydd wedi codi yn ddiweddar yw’r ffaith fod twristiaeth yn difetha
safleoedd hanesyddol o bwys. Mae rhai yn ceisio hysbysebu taw twristiaeth
eco-gyfeillgar yw’r unig ffordd ymlaen. Mae
nifer o safleoedd o bwysigrwydd archeolegol i’w ddarganfod ar draws y wlad,
yn enwedig yn agos at Triopoli a'r arfordir.
Dyma Leptis Magna sy’n ddinas Rhufeinig. Mae pobl yn
rhagfynegu fod tua 70% or ddinas dal o dan y ddaear ac angen eu darganfod.
Dyma Sabratha. Gallwn weld ‘amphitheatr’. Problem enfawr
sydd wedi codi yn y flynyddoedd diwethaf yw’r difrod sy’n cael ei achosi gan
twristiaeth. Mae rhaid cofio fod sancsiynau wedi bod ar waith yn y
gorffennol, ac felly dim ond yn ddiweddar mae’r dywidiant twristiaeth wedi
cael ei ddatbylgu. Mae angen system a rheolau
mewn lle i amddiffyn y safle ac hefyd i ganiatau pobl i ymweld a’r dinasoedd
enfawr hanesyddol fel Leptis Magna a Sabratha heb difetha unrhywbeth i’r
genhedlaeth nesaf.
Cafodd y theatr yma ei adnewyddu yn y canrif diwethaf o
gwmpas 1920 gan yr Eidalwyr o dan rheolaeth Mussolini.
Cymerwyd nifer o gerfluniau ac adeiladau o’u safle gan yr
Eidalwyr. O ganlyniad mae’n bosibl gweld cerfluniau ar draws y byd sydd wedi
cael eu dwyn o Leptis Magna. Serch hynny mae’n syndod fod y safle wedi
goroesu dros y canrifoedd ac fod cymaint dal yn bodoli. Gallwch weld yn
union sut le oedd y dinas.
Fel gallwch weld mae digon i weld yn Libya i pobl sydd
gyda diddordeb yn y Rhufeinwyr.
Mae’r tywydd boeth yn ardderchog er mwyn hybu twristiaeth yn yr ardal.
Dyma Dewi yn Gehrian, ardal mynyddig tu allan i
Tripoli. Sylwch ar y dyn camera. Roedd tim ohonyn nhw yn dilyn ni ymhobman.
Dyma hen dai Arabaidd. Wrth teithio allan o’r ddinas
i’r Sahara gawsom y cyfle i ddeall hanes pobl Libya. Yn cynnwys sut roeddynt
yn byw yn y gorffenol.
O’r dechrau roedd y grwp yn edrych ymlaen i ymweld a’r
Sahara. Wrth gadael Gehrian ar ein ffordd i Gadames newidodd y tirwedd yn
ddramatig. Roedd golygfeydd anhygoel.
Mae Libya am ceisio datrus problemau y dinistrio gan creu
rheolau gyfraith bydd rhaid i pawb eu dilyn wrth ymweld a’r Sahara. Dyma’r
‘Sahara Code’ a fydd yn ceisio amddiffyn y safleoedd hanesyddol:
Peidiwch byth gwastraffu dwr a chadw’r Sahara yn wyrdd.
Cymerwch lluniau a peidiwch gadael unrhyw sbwriel.
Defnyddiwch cerbydau a gyrwyr lleol.
Peidiwch a dinistrio unrhyw blanhigion yn yr anialwch.
Peidiwch ymyrru â safleoedd archeolegol.
Peidiwch a gwlychu waliau na cherrig sydd gyda ysgrifen arno.
Parciwch cerbydau i ffwrdd o safleoedd archeolegol pwysig a safleoedd
prydferthwch naturiol.
Peidiwch byth cymeryd ‘artifacts’ (e.e arrow heads, stone axes) o’r Sahara.
Peidiwch byth prynu ‘artifacts’ o unrhywun yn y Sahara.
Mae rhaid hysbysebu I’r awdurdodau os oes unrhyw un o’r rheolau yma yn cael
eu torri.
Bilingual Version
Nôl |