Taith i Libya, Pasg 2005

 

    

DEWI THOMAS

Roedd y daith i Libya yn brofiad bythgofiadwy a buddiol. Yn ystod fy amser yn y wlad ymchwiliais i mewn i lygredd aer yn Libya ac ysgrifennais gywaith ar y testun  ar gyfer gwefan yr oeddwn yn datblygu fel rhan o’r daith gyfnewid. Dysgais am y problemau amgylcheddol o fewn y wlad, gan  addysgu pobl ifanc eraill am amgylchedd y wlad gan godi ymwybyddiaeth am y problemau ynghyd â sut i ddiogelu yr amgylchedd. Yn ystod y cyfnod yn y wlad ymwelais a nifer o lefydd  treftadaeth Libya, ymwelais a safleoedd hanesyddol Rhufeinig ac Arabaidd. Dysgais gryn dipyn am ddiwylliant, cymdeithas, crefydd a iaith y wlad. Roedd rhaid i mi ymdopi ag arferion a thraddodiadau Libya sydd mor wahanol i arferion a thraddodiadau Cymru. Ymwelais ag anialwch Sahara a oedd yn hwyl, roedd y diffeithwch yn anhygoel, hollol wahanol i’r hyn yr oeddwn yn disgwyl. Cerddais ar hyd y twyni enfawr wrth i’r haul fachlud. Profiad byth gofiadwy oedd y daith.


RHYS GWYN EVANS

Mwynheais yn fawr iawn yn Libya dros y Pasg. Mae hi wedi bod yn brofiad arbennig sydd wedi codi fy ymwybyddiaeth am y diwylliant Arabaidd yn ogystal â rhoi cyfle i ni i wneud ffrindiau newydd. Mae rhaid i fi ddiolch i’r Cyngor Prydeinig am ei gwaith caled wrth baratoi cynllun diddorol i ni yn Libya. Anhygoel oedd y croeso gaethom gan y bobl leol. Wrth deithio ar hyd y wlad dysgom lawer am faterion a phroblemau amgylcheddol Libya, yn enwedig wrth weithio ar y safle we. Rhan bwysig o amcan y Prosiect Anialwch Gwyrdd oedd i codi ymwybyddiaeth pobl Prydain ynglyn a Libya, yn y gobaith o ddatblygu perthynas gyfeillgar rhwng ei’n gwledydd. Mae Libya wrthi’n datblygu diwydiant twristiaeth lwyddiannus, ac fel grwp o ddisgyblion cyntaf a’r prosiect cyfnewid i Libya am dros 30 o flynyddoedd, roedd cyfrifoldeb arnom ni i rhoi esiampl dda. Mae’r prosiect wedi bod yn llwyddiannus dros ben ac rydw i’n edrych ymlaen i’m ffrindiau newydd o Libya ddod draw i Gymru yn yr haf.

Mwy o wybodaeth a lluniau

Bilingual Version