Cynllun Gwlad Pwyl
Poland Project
 
Ymweliad a Cartref Plant yn Legnicia,
Gwlad Pwyl, Gorffennaf 2002
Visit to an orphange in Legnicia, Poland, July 2002

Diweddglo y daith
The journey comes to an end

Hoffai criw yr Urddaholics ddiolch i bawb a wnaeth helpu gyda’r codi arian. Llwyddwyd i brynu ystafell gyfrifiaduron cyfan iddynt, 5 cyfrifiadur, byrddau, cadeiriau addas ar gyfer cyfrifiaduron, paent a rhoddion. Yn ogystal a hyn byddwn yn gallu eu gwahodd yn ôl i Langrannog neu Lan-llyn, unai dros wyliau’r Pasg neu Haf 2003.
The Urddaholics would like to thank everyone who helped raise the money. We succeeded in buying a whole computer room for them, 5 computers, tables, suitable chairs for the computers, paint and gifts. As well as this, we will bhe inviting them back to Llangrannog or Glan-llyn during the Easter or Summer holidays in 2003

Mi roedd hi’n daith hynod o lwyddiannus, gyda nifer o’r criw yn gadael yn teimlo’n emosiynol iawn am y profiadau ar hyn cafodd ei gyflawni ar y daith.
It was a very successful journey, with the gang leaving felling very emotional about the experiences had and what was achieved on the journey.

Ar ôl y daith nododd un o’r Urddaholics,
"Wna i byth gymryd dim byd yn ganiataol eto."
Dyna oedd y teimlad cyffredinol ar ôl y daith gan bawb.
After the journey, one of the Urddaholics mentioned:
"I'll never take anything for granted again."
That was the general feeling everyone had.

Profiad bythgofiadwy a’r gobaith yw cyflawni taith debyg yn y dyfodol agos.
An unforgettable experience and we hope to do something similar in the near future.

Nôl i ddarllen yr hanes
Back to read about the journey

Nôl
Back