Jôcs,
straeon, cartwnau, posteri a llythyron - y cyfan yn Gymraeg, mewn iaith syml sy'n datblygu
drwy'r flwyddyn a gyda Geirfa ar bob tudalen! Mae Bore Da yn gylchgrawn misol addas ar
gyfer cyfnod allweddol 1 a 2 o'r Cwricwlwm Cenedlaethol Ail Iaith. Anfonir taflen athrawon
gyda Bore Da bob mis, sy'n dangos yr eirfa a'r patrymau iaith a ddefnyddir, ac sy'n rhoi
awgrymiadau am wahanol weithgareddau y gellir eu gwneud gan ddefnyddio'r cylchgrawn yn y
dosbarth. Cliciwch ar y mis i gael y taflenni i'r rhifyn hwnnw. Gobeithio y cewch fudd o
ddefnyddio Bore Da yn y dosbarth eleni. Croesawn unrhyw atborth! |